Cartref Cymru am Lenyddiaeth Cwiar
Beth ydy'r cynllun Talu Ymlaen?
Nod y cynllun Talu Ymlaen ydy sicrhau bod llyfrau ar gael i bobl nad sydd yn gallu fforddio'u prynu.
Sut medrai gyfrannu i’r gronfa?
Archebwch gopi o’r llyfr sydd wedi'i ddewis ar gyfer ein clwb darllen misol, #QueerasBooks, a bydd cost y llyfr yn mynd tuag at y gronfa. Opsiwn arall ydy rhoi'r arian yn uniongyrchol at y gronfa trwy PayPal.Me/TaluYmlaen.
Sut ydw i’n gofyn am gopi o’r silff?
Gyrrwch ebost i info@paned-o-ge.wales gyda’r neges testun ‘Talu Ymlaen’, enw’r llyfr rydych chi’n dymuno ac eich cyfeiriad.
Oes rhaid i mi gynnig unrhyw dystiolaeth i gael copi?
Nid oes angen unrhyw dystiolaeth bellach - nawn ni eich credu!
Ewch i'r daenlen ganlynol i weld faint o arian sydd yn y gronfa a sut rydym wedi dosbarthu'r arian, cyn bell â hyn.