Cartref Cymru am Lenyddiaeth Cwiar
Beth yw Paned o Gê?
Siop lyfrau annibynnol, bar a lle gwrdd yng Nghaerdydd bydd Paned o Gê, sef menter gymdeithasol sydd â'r bwriad o hyrwyddo a dathlu popeth LHDT+, talent Cymreig a chreuadigrwydd.
Beth yw siop lyfrau cwiar?
Mae siop lyfrau cwiar yn gwerthu llyfrau gan ac yn trafod pobl LHDTC+. Ar hyn o bryd, rhestr hynod o fer sydd ar gyfer llefydd tebyg ledled y DU (Category is Books yn Glasgow, Gay’s the Word yn Llundain, The Portal Bookshop yn Efrog a The Bookish Type yn Leeds).
Beth yw menter gymdeithasol?
Menter gymdeithasol yw busnes, ond mae'r elw yn cael ei ailgyfeirio tuag at nodau cymdeithasol. Mewn gwirionedd, byddai'n gwbl anghyfreithlon os oedd Paned yn gwneud rhywbeth arall gyda'r arian! I gofrestru gyda'r Tŷ'r Cwmnïau fel menter gymdeithasol, mae'n rhaid cyhoeddi rhoddir yr holl elw i'r gymuned yn eich papurau cyfansoddiadol.
Lle bydd yr elw o Baned o Gê yn mynd?
Bwriadwn ailfuddsoddi unrhyw arian y codir o'r siop arlein i mewn i Baned o Gê.
Os mae'r clwb darllen digidol yn llwyddiannus ac mae Paned yn parhau i wneud arian, o Fehefin 2020 ymlaen, y cynllun yw rhoi 10% o'r elw i elusennau LHDTC+ Cymraeg.
Os mae Paned o Gê yn cadw rhan o'r elw, sut y bydd yr arian hynny yn cael ei wario?
Yn y pen draw, yr amcan yw codi digon o arian i brynu safle masnachol a fydd yn hwb am y gymuned LHDTC+ yng Nghaerdydd.
Buddsoddir pob ceiniog sy'n weddil (mewn person neu arlein) yn ôl mewn i'r hwb a'r gymuned cwiar Cymreig. Hynny yw, defnyddir y cyllid i gynnal digwyddiadau, talu perfformwyr a siaradwyr gwâdd, cynnal seminarau addysgiadol, ariannu'r silff Talu Ymlaen a chymaint yn fwy!
Holl gwaith celf gan
Jenna Clark @ Skybear Illustration