Weight | 268 g |
---|
Tell Me I’m Worthless – Alison Rumfitt
£9.99
RHYBUDD: Mae’r llyfr yma yn cynnwys portreadau o geisiad o ymosodiad rhywiol, trais rhywiol, trais, hiliaeth, gwrth-Semitiaeth, trawsffobia, casineb yn erbyn menywod, camdrin domestig (corfforol ac emosiynol), defnydd alcohol a chyffuriau, homoffobia, camymddwyn rhywiol yn erbyn plant, hunan-niweidio, hunanladdiad, marwolaeth, llofruddiaeth a gore.
Tair blynedd yn ôl, treuliodd Alice un noson mewn tŷ segur gyda’i ffrindiau Ila a Hannah. Ers hynny, nid yw pethau wedi mynd yn dda. Mae Alice yn byw bywyd ysbryd, yn gwerthu fideos ohoni ei hun yn glanhau am arian, yn mynd i bartïon y mae’n eu casáu, yn yfed ei hun i gysgu. Nid yw hi wedi siarad â Ila ers iddynt fynd i mewn i’r Tŷ. Dyw hi ddim wedi gweld Hannah chwaith.
Mae adgofion y noson honno yn poenydio ei meddwl a’i chnawd, ond pan fydd Ila yn gofyn iddi ddychwelyd i’r Tŷ, heibio’r arwydd CADWCH ALLAN, dros y ddaear sâl lle mae pobl ifanc yn meiddio ei gilydd i fentro, mae’n gwybod bod yn rhaid iddi fynd.
Gyda’i gilydd mae’n rhaid i Alice ac Ila wynebu’r digwyddiadau arswydus a ddigwyddodd yno, rhaid iddynt dynnu eu hunain ar wahân i’r tu mewn allan, rhoi eu gwahaniaethau i’r naill ochr, a cheisio achub Hannah, y mae’r Tŷ wedi dewis ei gwneud yn un ei hun.
Yn doriadus a’n aflonyddgar, mae Tell Me I’m Worthless yn waith hanfodol o ffuglen draws sy’n wynebu erchyllterau goruwchnaturiol a’r byd go iawn wrth archwilio effeithiau dinistriol trawma a’r ffordd y mae ffasgiaeth yn gwneud i ni ddinistrio ein hunain a’n gilydd.