Am y Fenter

Beth yw Paned o Gê?

Siop lyfrau annibynnol yng Nghaerdydd ydy Paned o Gê; menter gymdeithasol sydd â’r bwriad o hyrwyddo a dathlu popeth LHDT+, talent Cymreig a chreuadigrwydd.  Ar hyn yn bryd, rydym yn siop arlein yn bennaf, ond mae gennym presenoldeb yn The Queer Emporium hefyd.

Beth yw siop lyfrau cwiar?

Mae siop lyfrau cwiar yn gwerthu llyfrau gan ac yn trafod pobl LHDTC+. Ar hyn o bryd, rhestr hynod o fer sydd ar gyfer llefydd tebyg ledled y DU (Category is Books yn Glasgow, Gay’s the Word yn Llundain, The Portal Bookshop yn Efrog, The Bookish Type yn Leeds, QueerLit yn Manceinion a Lighthouse Bookshop yng Nghaeredin).

Beth yw menter gymdeithasol?

Menter gymdeithasol yw busnes, ond mae’r elw yn cael ei ailgyfeirio tuag at nodau cymdeithasol.  Mewn gwirionedd, byddai’n gwbl anghyfreithlon os oedd Paned yn gwneud rhywbeth arall gyda’r arian!  I gofrestru gyda’r Tŷ’r Cwmnïau fel menter gymdeithasol, mae’n rhaid cyhoeddi rhoddir yr holl elw i’r gymuned yn eich papurau cyfansoddiadol.

Lle bydd yr elw o Baned o Gê yn mynd?

Bwriadwn ailfuddsoddi unrhyw arian y codir o’r siop arlein i mewn i Baned o Gê.

Os mae’r clwb darllen digidol yn llwyddiannus ac mae Paned yn parhau i wneud arian, o Fehefin 2020 ymlaen, y cynllun yw rhoi 10% o’r elw i elusennau LHDTC+ Cymraeg.

Os mae Paned o Gê yn cadw rhan o’r elw, sut y bydd yr arian hynny yn cael ei wario?

Defnyddir y cyllid i gynnal digwyddiadau, talu perfformwyr a siaradwyr gwâdd, cynnal seminarau addysgiadol, ariannu’r silff Talu Ymlaen a chymaint yn fwy!  Yn y pen draw, yr amcan yw codi digon o arian i brynu fan trydanol a’i throi yn siop symudol, i sicrhau ein bod ni’n siop llyfrau LHDTC+ Cymru gyfan.

Newsletter Sign-Up

Input your email address below to sign-up to our monthly newsletter, which features discount codes, news and attempted whimsy.

Scroll to Top