Weight | 481 g |
---|
Harriet Tubman: Live in Concert – Bob the Drag Queen
£20.00
Dyddiad Cyhoeddi: 3ydd Ebrill 2025
Gan un o enillwyr RuPaul’s Drag Race a chyflwynydd We’re Here ar HBO, dyma nofel ddyfeisgar a rhyfeddol am yr arwres o UDA, Harriet Tubman, sy’n ailgymysgu hanes a’i droi’n nofel ffres, ddeinamig am gariad, rhyddid, iachawdwriaeth, a hip-hop. Mewn oes o wyrthiau lle mae ein harwyr mwyaf o hanes wedi dychwelyd – yn anesboniadwy drwy hud a lledrith – i’n hysgwyd ni o’n dryswch a’n casineb, mae Harriet Tubman yn ei hôl, ac mae ganddi lawer i’w ddweud. Mae Harriet Tubman a phedwar o’r caethweision yr arweiniodd hi at ryddid eisiau dweud eu stori mewn ffordd unigryw.
Mae Harriet eisiau creu albwm hip-hop a sioe fyw am ei bywyd, ac mae hi angen cyfansoddwr caneuon i’w helpu. Mae hi’n galw ar Darnell Williams, y cynhyrchydd hip-hop a oedd, ar un adeg, yn llwyddiannus ac ar frig y siartiau cyn iddo gael ei wneud yn destun cywilydd ar sioe sgwrsio BET. Does gan Darnell ddim syniad beth i’w ddisgwyl pan fydd yn camu i mewn i’r stiwdio gyda Harriet. Yr unig beth mae’n ei wybod yw bod gan y ddau gyfnod byr i ysgrifennu albwm chwedlonol y gall Harriet fynd â hi ar daith.
Yn ystod eu hamser gyda’i gilydd, maen nhw nid yn unig yn creu cerddoriaeth a fydd yn ysgwyd y wlad, ond hefyd yn wynebu erchyllterau eu gorffennol, ac yn dod o hyd i ffordd tuag at ddyfodol gwell. Yn wreiddiol, atgofus a hanesyddol, mae Harriet Tubman: Live in Concert yn gamp nodedig a fydd yn cloddio’n ddwfn i’n calonnau (a’n clustiau).