Mynd i'r cynnwys

Jack and Eve: Two Women In Love and At War – Wendy Moore

£20.00

Gadawodd Vera Holme, a adnabyddir fel Jack, yrfa fel actores i ddod yn chauffeur a mecanic Emmeline Pankhurst. Roedd Evelina Haverfield yn harddwch clasurol, yn ferch i farwn Albanaidd a’n 14 blynedd yn hŷn na Jack. Cyfarfu’r ddwy ym 1909, cwympodd mewn cariad, symudodd i mewn gyda’i gilydd, a daethant yn wynebau cyhoeddus mudiad y swffragetiaid, gan fynd i’r carchar a gwneud popeth o fewn eu gallu i’r achos.

Oedodd y Rhyfel Byd Cyntaf ymgyrch y swffragetiaid, a chofrestrodd Jack ac Eve yng Ngwasanaeth Ysbyty Merched yr Alban?, gan ganfod eu hunain yn fuan yn Serbia. Sefydlodd a rhedodd Eve ysbytai ar gyfer milwyr y cynghreiriaid mewn amodau erchyll, tra daeth Jack yn yrrwr ambiwlans, gan deithio ar hyd traciau baw o dan belediad i gasglu’r cleifion o’r rheng flaen.

Gyda’i gilydd, wnaethon nhw gerfio? llwybrau radical newydd, gan ddangos y gallai menywod wneud unrhyw beth y gallai dynion, fel gyrru ambiwlans, rhedeg ysbyty milwrol, dod yn garcharorion rhyfel neu ddwyn? arfau. Gwrthodon nhw gyfaddawdu yn eu rhywioldeb – roedden nhw’n bartneriaid gydol oes er bod Jack yn mwynhau perthnasau â merched eraill. Yn benderfynol o fod yn nhw eu hunain, ‘forthright, flamboyant and proud,’ mae Wendy Moore yn defnyddio eu stori fel lens i edrych ar/ystyried mudiad y swffragetiaid, gwaith menywod yn y Rhyfel Byd Cyntaf a datblygiad hunaniaeth lesbiaidd drwy gydol yr 20fed ganrif.

Add to CompareAdded

Newsletter Sign-Up

Input your email address below to sign-up to our monthly newsletter, which features discount codes, news and attempted whimsy.