Mynd i'r cynnwys

Just Happy to Be Here – Naomi Kanakia

£14.99

Yn y nofel Oedolyn Ifanc hon sy’n berffaith i ddarllenwyr Meredith Russo, mae’n rhaid i’r ferch draws gyntaf mewn ysgol merched ddewis rhwng cadw ei phen i lawr neu danio llwybr newydd.

Mae Tara eisiau cael ei thrin fel unrhyw ferch arall yn Academi Ainsley.

Hynny yw, yn cael ei barnu yn ôl ei rhinweddau – nid ar ei hunaniaeth traws. Ond nid oes map ar gyfer bod y ferch draws gyntaf mewn ysgol ferched. A phan mae hi’n ceisio ymuno â’r Sibyls, chwaeroliaeth hen ffasiwn gydag enwau côd a breintiau arbennig, mae hi’n cael ei gwthio i ganol ddadl ynglŷn â beth mae’n golygu i fod yn ferch ac a ddylai’r clwb fodoli o gwbl.

Nid yw bod yn flaenwr mudiad yn rhywbeth mae Tara eisiau. Byddai’n well ganddi ddarllen hen areithiau a chymdeithasu gyda’r Sibyls sydd ar ei hochr – yn enwedig Felicity, ffrind newydd y mae’n meddwl y gallai droi’n rhywbeth mwy. Yna mae noddwr y clwb, cyn-fyfyriwr enwog, yn ymosod arni yn y cyfryngau a’n troi’r broses ddethol yn syrcas.

Mae Tara wastad wedi cael cysur yng ngrym geiriau pobl eraill. Ond pan ddaw’n amser ymladd drosti ei hun, a fydd hi’n gallu dod o hyd i’w llais ei hun?

Add to CompareAdded

Newsletter Sign-Up

Input your email address below to sign-up to our monthly newsletter, which features discount codes, news and attempted whimsy.