Weight | 336 g |
---|
One Love – Matt Cain
£9.99
Dau ddyn. Ugain mlynedd o gyfeillgarwch. Un cariad.
2002. Mae Danny yn cyrraedd Prifysgol Manceinion yn benderfynol o beidio â chuddio rhag y byd rhagor. Dyma’r flwyddyn y bydd ei fywyd yn dechrau. Mae’n cloi llygaid gyda dieithryn golygus ar draws y neuadd yn Ffair y Glas. Mae’n dechrau gyda winc ac yn fuan mae Danny a Guy yn ffrindiau gorau.
2022. Nawr, y ddau yn sengl am y tro cyntaf ers blynyddoedd, mae Danny a Guy yn dychwelyd i strydoedd conffeti’r Pentref Hoyw ar gyfer Balchder Manceinion. Ar ôl blynyddoedd o anturiaethau ar y cyd a breuddwydion coll, mae Danny o’r diwedd yn bwriadu rhannu’r gyfrinach y mae wedi bod yn ei chadw ers dau ddegawd.
Mae e wastad wedi bod mewn cariad â Guy. A allai’r penwythnos hwn fod yn ddiwedd ar gyfeillgarwch ugain mlynedd… neu’n ddechrau rhywbeth newydd a hyd yn oed yn fwy prydferth?