Only This Beautiful Moment – Abdi Nazemian

£8.99

2019 – Mae Moud yn ei arddegau, yn agored yn hoyw a’n byw yn Los Angeles gyda’i dad, Saeed. Pan fydd Moud yn cael y newyddion bod ei dad-cu yn Iran yn marw, mae’n mynd gyda’i dad i Tehran, lle bydd y datguddiad o gyfrinachau teuluol yn gorfodi Moud i mewn i ddealltwriaeth newydd o’i hanes, ei ddiwylliant, ac ef ei hun.

1978 – Mae Saeed yn fyfyriwr peirianneg gyda dyfodol addawol o’i flaen yn Tehran. Ond pan fydd ei rieni yn darganfod ei ran yn chwyldro’r wlad, maen nhw’n ei anfon i America, gwlad y mae Saeed yn ei gasáu. Ac yn waeth byth – mae’n gorfod byw gyda’i famgu Americanaidd nad oedd erioed yn gwybod ei bod yn bodoli.

1939 – Mae Bobby, mab i fam lwyfan Hollywood, yn glanio contract stiwdio MGM. Ond mae ochr dywyll i fyd y stori dylwyth teg hudolus…

Wedi’i gosod yn erbyn cefndir Tehran a Los Angeles, mae’r stori hon am drawma rhwng cenedlaethau a chariad yn awdl i rwymau bregus teulu, cyfrinachau cudd hanes a’r holl fomentau hyfryd sy’n ein gwneud ni pwy ydyn ni heddiw.

Newsletter Sign-Up

Input your email address below to sign-up to our monthly newsletter, which features discount codes, news and attempted whimsy.

Scroll to Top