Weight | 278 g |
---|
The In-Between – Christos Tsiolkas
£9.99
Nid yw unrhyw fywyd yn syml, ac nid yw unrhyw fywyd heb dristwch. Nid yw unrhyw fywyd yn berffaith.
Mae dau ddyn canol oed yn cwrdd ar ddêt rhyngrwyd. Mae’r ddau wedi’u creithio gan berthynas flaenorol; mae gan y ddau eu rhesymau dros roi’i gorau i’r syniad o ddod o hyd i gariad.
Ond mae’r ddau dal yn dod i’r ddêt, yn teimlo’r sbarc a phosibilrwydd o rywbeth mwy. Yn teimlo’r ofn o ffaelu eto, o gael eu brifo a’u bychanu a’u dinistrio ymhellach gan gariad.
Sut gallant gymryd y risg o gwympo mewn cariad eto? Sut na allant?
Nofel dyner am gariad, gobaith a maddeuant gan un o’r dehonglwyr mwyaf di-ofn a gonest o’r galon ddynol, yr awdur poblogaidd o The Slap a Damascus.