Weight | 1334 g |
---|
Trans Hirstory in 99 Objects – David Evans Franz + Christina Linden + Chris E. Vargas
£35.00
Hanes Traws trwy gelf, gweithrediaeth, a gwrthrychau unigryw o wrthsafiad. Mae’r gyfrol hon yn cysylltu detholiad eang o weithiau celf ac arteffactau, dros bedair canrif, i amlygu’r hanes o’r cymunedau traws ac anghydffurfiol o ran rhywedd sydd wedi eu dan-gynrychiolu. Trwy gyfraniadau artistiaid, llenorion, beirdd, gweithredwyr, ac ysgolheigion, mae’r teitl hwn yn adlewyrchu ar ddilead hanesyddol i ddychmygu dyfodol traws.
Mae’r amrywiaeth eang o weithiau celf ac arteffactau yn olrhain nid hanes patriarchaidd ond hanes (neu ‘hirstory’) traws a rhywedd-niwtral. Y cyhoeddiad cyntaf o’r fath, mae’r arolwg eang hwn yn dathlu rhagflaenwyr traws, yn amlygu brwydrau a buddugoliaethau, a’n adlewyrchu etifeddiaeth mynegiant creadigol traws. Cyhoeddir y llyfr hwn gan y ‘Museum of Trans Hirstory & Art,’ sef prosiect celf gysyniadol yr artist Chris E. Vargas sydd wastad “yn cael ei adeiladu” yn ôl ei ddyluniad i ganiatáu trawsnewid parhaus.