- This event has passed.
Love Apparently
Rhagfyr 16, 2023 @ 8:00 pm - 10:00 pm
£8 – £12Ugain mlynedd yn ôl, cafodd ffilm Richard Curtis Love Actually ei rhyddhau a nawr, mae’r cwiars am gael go arni! Yn Love Apparently, mae grŵp o artistiaid LHDTC+ am adolygu a pherfformio nifer o straeon o’r ffilm fyd-enwog!
Yn deillio o syniad gan enillydd Drag Idol 2023 Fruit ‘n Fibre, sydd hefyd yn serennu, mae’r cast hefyd yn cynnwys perfformwyr anhygoel megis Leila Navabi, digrifwr a llwyddodd i werthu allan pob noson o’i sioe Gŵyl Caeredin eleni; seren TikTok a S4C, Catrin Feelings; y cerddor, Asha Jane; frenin drag, Justin Drag a’r frenhines drag, Marmalade.
Bu’r arian a chodwyd o’r sioe yn mynd i TransGivingUK a Anera.
Gwybodaeth Hygyrchedd
Mae alcohol yn cael ei gweini yn y lleoliad yma.
Bydd y sioe yn cynnwys goleuadau llachar a synau uchel. Yn anffodus, hyd yn hyn, nad ydym wedi llwyddo i ffeindio dehonglydd BSL am y sioe. Os mae hyn yn newid, byddwn yn diweddaru’r disgrifiad a chyhoeddi’r newyddion ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae Chapter Arts Centre oddeutu 1.1 milltir o Orsaf Trên Ninian Park a 1.4 milltir o Orsaf Trên Caerdydd Canolog. Mae bysiau yn haws i ddal o Orsaf Trên Caerdydd Canolog, sydd yn agos i Westgate Street a Wood Street. Mae yna nifer o fysiau sydd yn mynd tuag at Chapter yn gadael o fan hyn, ond mae hyd y daith o le mae’r bws yn eich gollwng i Chapter yn amrywio yn dibynnu ar ba rif bws rydych yn defnyddio. Rydym yn awgrymu iddych chi tsecio hyn ymlaen llaw, cyn dal unrhyw fws.
Medrai tacsis eich casglu a’ch gollwng yn uniongyrchol tu fas y ganolfan.
Love Apparently
Ysgrifennwyd gan Elliot Ditton
Datblygwyd gan The Cast
Cynhyrchwyd gan Paned o Gê
Poster gan @ellyd.art
Cefnogwyd gan The Queer Emporium and Iris Prize