Mynd i'r cynnwys

Endpapers – Jennifer Savran Kelly

£14.99

Yn y nofel hon a osodwyd yn Efrog Newydd yn 2003, mae cadwraethwr llyfrau rhywedd-cwiar yn teimlo’n gaeth i’w chyflwyniad rhywedd, ei pherthynas anaddas, a’i bloc artistig – nes iddi ddarganfod llythyr cariad cudd cwiar sy’n ddegawdau oed a’n datblygu obsesiwn ag olrhain yr awdur.

Mae’n 2003, ac mae’r artist Dawn Levit yn sownd. Yn rhwymwr llyfrau sy’n gweithio yn y Met, mae’n treulio ei hamser rhydd yn chwilio am gelf stryd y ddinas, gan obeithio y gallai rhywbeth danio ei hysbrydoliaeth, ond yn ffaelu. Ac nid celf yw’r unig beth sy’n teimlo’n anghywir: ble bynnag y mae’n troi, mae ei hunaniaeth rhywedd yn gwrthdaro â gweddill ei bywyd. Mae ei pherthynas, a oedd unwaith yn cael ei hangori gan eu hunaniaethau cwiar, yn cwympo’n ddarnau wrth i’w chariad Lukas ymddangos fel pe bai’n cael ei ddenu at Dawn dim ond pan mae hi ar ei mwyaf gwrywaidd.

Yn y cyfamser yn y gwaith, mae’n rhaid i Dawn gyflwyno fel menyw, hyd yn oed ar y dyddiau pan nad yw hynny’n wir. Y naill ffordd neu’r llall, mae ei gwahaniaeth yn teimlo fel gwendid. Yna, un diwrnod yn y gwaith, mae Dawn yn dod o hyd i rywbeth sydd wedi’i guddio yn hen lyfr: clawr sydd wedi’i rwygo i ffwrdd o nofel mwydion lesbiaidd o’r 50au, Turn Her About. Ar y blaen mae llun camp o fenyw yn edrych i mewn i ddrych llaw a’n gweld wyneb dyn. Ac ar y cefn mae llythyr cariad. Mae Dawn yn troi at y cyd-ddigwyddiad, gan ddatblygu obsesiwn ag olrhain yr awdur.

Mae ei hobsesiwn yn cynyddu pan fydd ei ffrind gorau Jae yn cael ei anafu mewn trosedd casineb y mae Dawn yn teimlo’n gyfrifol am. Wrth i Dawn chwilio am awdur y llythyr, mae hi hefyd yn chwilio amdani ei hun. Mae hi’n ceisio deall sut i fyw mewn byd nad yw’n ei gweld hi fel yw hi, sut i atal bod yn sownd yn ei rhyw, a sut i ailddarganfod ei chelf, ac ni all ysgwyd y teimlad y gallai awdur y nodyn ei harwain at yr atebion.

Add to CompareAdded

Newsletter Sign-Up

Input your email address below to sign-up to our monthly newsletter, which features discount codes, news and attempted whimsy.