Mynd i'r cynnwys

X – Davey Davis

£10.99

Yn bortread o arswyd gwleidyddol a phleserau treisgar ar draws Efrog Newydd, mae X yn nofel sy’n ymchwilio i feddyliau cymeriadau ar yr ymylon.

Mae’r byd yn dod i ben ac mae Lee yn treulio’u dyddiau’n gweithio i gorfforaeth a’u nosweithiau’n crwydro strydoedd Brooklyn yn gwrando ar bodlediadau trosedd. Ond mae popeth yn newid pan mae Lee yn cael eu llusgo i barti gan eu ffrind gorau, lle maen nhw’n ffeindio’u hunain yng nghrafangau X. Pan mae Lee yn chwilio amdani eto, does dim golwg ohoni.

Ynghanol y cyfyngiadau ar hawliau sifil, ymfudwyr a ffoaduriaid, mae llywodraeth yr UDA wedi dechrau annog ‘allforio’ dinasyddion annymunol – yr anghydffurfwyr, y radical a’r anllywodraethol. Gall X fod ymhlith y rhai sy’n gadael, os na fydd Lee yn dod o hyd iddi.

Add to CompareAdded

Newsletter Sign-Up

Input your email address below to sign-up to our monthly newsletter, which features discount codes, news and attempted whimsy.