Weight | 172 g |
---|
Gathering: Women of Colour on Nature – Durre Shahwar + Nasia Sarwar-Skuse
£10.99
“Mae’r bryniau ac arfordiroedd prydferth ar gyfer pob un ohonom. Gyda’n gilydd, gallwn ail-ddychmygu cefn gwlad Prydain (a’r cyfan mae’n ei gynrychioli) a gwneud lle fel bod croeso i bawb.”
Mae Gathering yn dod â thraethodau gan fenywod o liw ledled y DU at ei gilydd, sy’n ysgrifennu am eu perthynas â byd natur mewn genre sydd wedi’i ddominyddu gan awduron gwrywaidd, gwyn, dosbarth canol. Mae’r casgliad teimladwy hwn yn ystyried cyfiawnder hinsawdd, niwroamrywiaeth, iechyd meddwl, y byd academaidd, hanesion etifeddol, gwynder, cerddoriaeth, heicio a llawer mwy.
Bydd y traethodau personol, creadigol a ffyrnig hyn yn ehangu sgyrsiau a gorwelion am ein byd byw, gan annog darllenwyr i ystyried eu profiad o fyd natur a’u lle ynddo.