Mynd i'r cynnwys

Gods of Want – K-Ming Chang

£9.99

Straeon syfrdanol sy’n canolbwyntio ar y cyrff, atgofion, mythau a pherthynasau o fenywod Asiaidd-Americanaidd, o anrhydeddai ‘US National Book Award ‘5 Under 35’ ac awdur Bestiary.

Yn ‘Auntland’, mae llif cyson o fodrybedd yn addasu i fywyd America trwy sleifio cusanau dirmygus gan fenywod yn y deml, prynu tybiau o hufen iâ fanila i baratoi ar gyfer profion dinasyddiaeth, a deor cynlluniau i enwi eu merched yn ‘Dog’. Yn ‘The Chorus of Dead Cousins’, mae cefndryd-ysbrydion yn croesi gofod, moroedd, ac awyr i aflonyddu eu cefnder byw, gwraig i ‘storm chaser’. Yn ‘Xifu’, mae mam-yng-nghyfraith yn poenydio gwraig mewn ymdrechion cynyddol aflwyddiannus i gael gwared ar ei thŷ.

Yn ‘Mariela,’ mae dwy ferch yn ymchwiolo am y tro cyntaf ym mol siarc plastig, tra yn ‘Virginia Slims,’ mae menyw o hysbyseb sigaret yn dod i fyw. Ac yn ‘Resident Aliens,’ mae cyn-ladd-dy yn gartref i gyfres o weddwon yn cadw cyfrinachau erchyll. Gyda phob chwedl, mae K-Ming Chang yn rhoi cipolwg ei hun ar swrrealaeth sy’n cymysgu myth ac ymfudo, corfforoldeb ac ysbrydion, cwiardeb a quotidian.

Add to CompareAdded

Newsletter Sign-Up

Input your email address below to sign-up to our monthly newsletter, which features discount codes, news and attempted whimsy.