Mynd i'r cynnwys

Greta & Valdin – Rebecca K Reilly

£14.99

Efallai bod gan y brawd a chwaer Greta a Valdin ormod yn gyffredin. Maen nhw’n gyd-letywyr, gyda’r un cyfenw bron yn amhosib i’w ddweud, ac mae’r ddau yn gwneud dewisiadau gwael o ran cariad.

Mae Valdin mewn cariad â’i gyn-gariad Xabi, a adawodd y wlad oherwydd oedd e’n meddwl ei fod yn gwneud Valdin yn drist. Mae Greta mewn cariad â’i chyd-diwtor Saesneg Holly, sydd yn ei defnyddio ar gyfer cymorth gweinyddol. Ond efallai fod dal gobaith. Mae Valdin yn dod i sylweddoli efallai ei fod yn haeddu cariad, a Greta yn sylweddoli ei bod hi’n werth mwy na’r papurau mae’n eu marcio.

Yn helpu’r brawd a chwaer i ddeall eu hunaniaeth cwiar ac amlhiliol, a thueddiad eu cariadon i ffoi, mae’r teulu Vladisavljevic: teulu Maori-Rwsieg-Catalwnia sy’n mor angerddol ag y maent yn ecsentrig.

Bydd nofel Rebecca K. Reilly am gariad, teulu, carioci, ac effeithiau wladychiaeth ar genedlaethau yn gwneud i chi chwerthin, crio, a chwympo mewn cariad â’r teulu Vladisavljevic cyfan.

Add to CompareAdded
Categories: , ,

Newsletter Sign-Up

Input your email address below to sign-up to our monthly newsletter, which features discount codes, news and attempted whimsy.