Pride Families – Amie Taylor + Kaspa Clarke

£12.99

Mae teuluoedd yn dod mewn pob siâp a maint gwahanol, ac mae pob un yn berffaith!

Dewch i ddathlu’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn ‘Pride Family’ (neu ‘Teulu Balch’) yn y llyfr darluniadol prydferth hwn a ysgrifennwyd gan yr awdur LHDTCRhA+ Amie Taylor ac a ddarluniwyd gan Kaspa Clarke.

Mae teuluoedd LHDTCRhA+ yn dod yn holl liwiau’r enfys. Efallai eich bod yn perthyn i Deulu Balch, neu efallai bod gennych ffrind sy’n perthyn i Deulu Balch?

Mae’r llyfr plant addysgiadol hwn yn edrych ar y teuluoedd hyn, wrth ganolbwyntio ar drefniant teuluol traws, anneuaidd, hoyw, lesbiaidd ac amlgarwriaethol. Gan ymdrin â themâu fel beichiogrwydd, cenhedlu gyda rhoddwr a mam benthyg yn ochr yn ochr â chanllaw i oedolion sy’n helpu i egluro’r derminoleg, mae’r llyfr hwn yn adnodd amhrisiadwy ar gyfer rhannu a dathlu’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn Deulu Balch.

Add to Wishlist Browse Wishlist
Scroll to Top