Weight | 346 g |
---|
Queer Villains of Myth and Legend – Dan Jones
£16.99
Mae pob arwr da angen dihiryn! Archwiliwch fyd cudd dihirod sy’n aml yn cael eu bwrw o’r neilltu a’u camddeall mewn chwedlau a llên gwerin. Trwy dudalennau Queer Villains of Myth and Legend, darganfyddwch gymuned amrywiol o gymeriadau hynod ddiddorol, o’r swynol a chyfrwys i’r pwerus ac ysbrydoledig. Profwch hudoliaeth dywyll Circe a Medusa trwodd i ‘Jareth’ David Bowie yn Labyrinth ac ymchwiliwch i’w personoliaethau a’u cymhellion cymhleth ac amlochrog.
Plymiwch yn ddwfn i’r croestoriad dihirod cwiar, ailedrychwch ar rai o’n hoff gymeriadau, a darganfyddwch pam mae cymaint o gymeriadau ‘drwg’ â chodau cwiar. O fytholeg hynafol i ddiwylliant pop cyfoes, mae Queer Villains of Myth and Legend yn dathlu straeon hynod ddiddorol y cymeriadau hyn sy’n aml cael eu hanwybyddu. Ymunwch â Dan Jones ar daith o ddarganfod, wrth iddo archwilio dyfnder cudd dihirod cwiar a thaflu goleuni ar hunaniaethau rhyfedd y ffigurau cymhellol hyn.
Dyma ddathliad pwerus o hunanieth cwiar ar hyd yr oesoedd yn ei holl gymhlethdod chwedlonol.