Weight | 152 g |
---|
Ten Bridges I’ve Burnt: A Memoir in Verse – Brontez Purnell
£10.99
Yn Ten Bridges I’ve Burnt, mae Brontez Purnell – bardd y rhai sydd wedi’u tan-garu ac anwybyddu – yn troi ei olwg i mewn. Yn storïwr gyda llygad cerddorol am yr abswrdiaeth o’i fodolaeth ei hun, mae’n ddigyffelyb yn ei allu i ddod o hyd i’r ysgafnder o fewn yr argyfyngau mwyaf stormus. Yma, yn ei gasgliad cyntaf o’r fath, mae Purnell yn myfyrio ar ei fywyd peripatetig, nad oes gan ei uchafbwyntiau na’i isafbwyntiau ddim ar y cynnwrf oddi mewn. ‘Yr ymddygiad hoyw mwyaf peryglus rwyf yn cymryd rhan ynddo,’ mae Purnell yn ysgrifennu, ‘yn syml yw bodoli.’
Mae’r 38 darn hunangofiannol sy’n curo yn Ten Bridges I’ve Burnt yn dangos Purnell ar ei orau. Mae’n cofio ffrwgwd y cymerodd ran ynddi mewn cynhadledd farddoniaeth ac mae’n ystyried pecynnu ei drawma ar gyfer ystafelloedd ysgrifenwyr teledu; mae’n ymgodymu â’r melltithion, a rhoddion, a drosglwyddwyd i lawr o genedlaethau o’i deulu; a’n croniclau ei anffodion ac anturiau rhywiol. Trwy’r cyfan, mae’n myfyrio ar gariad ac unigrwydd, cyfalafiaeth a hunaniaeth Du?, loncian a chelf, trwy’r amser gydag eglurder a symudiad anrhegweladwy.
Gyda’r un ffraethineb a doethineb a wnaeth 100 Boyfriends yn llwyddiant?, mae Purnell yn rhyddhau casgliad sy’n gwthio ffiniau gyda Ten Bridges I’ve Burnt, llyfr mor wreiddiol a gwefreiddiol â’r awdur ei hun.