Mynd i'r cynnwys

Unsuitable: A History of Lesbian Fashion – Eleanor Medhurst

£25.00

Mae dillad yn ganolog i hanes lesbiaidd, ac mae lesbiaid yn ganolog i’r diwylliant fasiwn. Mae’r ffordd mae pobl yn gwisgo ei hun yn dangos i’r byd pwy rydym ni, neu medrai helpu ni i guddio; i gynorthwyo datblygiad cymuned, neu i wneud i chi sefyll eto. Er hyn, mae ‘fasiwn lesbiaidd’ wastad yn cael ei diystyru.

Heb stori yma am hunan mynegiant lesbiaidd, beth rydym yn colli am y diwylliant a statws o fenywod cwiar? Mae hanes lesbiaidd yn llithrig: fel arfer, mae wedi cael ei chuddio, ei golygu neu heb ei recordio. Bwriad Unsuitable ydy adfer yr hanes yma, trwy wneud ni’n ymwybodol o gyfraniadau o lesbiaid i hanes fasiwn, o ‘top hats’ i tiaras fioled. Mae’r stori yma yn carlamu trwy’r oesoedd a gwledydd gwahanol, o Gentleman Jack yn Sir Efrog yn y bedwaredd-ar-bymtheg canrif, i Frenhines Christina yn yr ail-ar-bymtheg canrif yn Sweden, i foderniaeth ym Maris, Berlin, diwylliant bariau bwtch/fem, ymgyrchwyr yn y 1980au, brenhinoedd drag, Suffragettes, yr Harlem Renaissace a chrysau-t gyda sloganau. Mae Unsuitable yn gasgliad eang a chynhwysol, gan gyfuno hanesion poblogaidd a rhai ymylol, gan ddathlu straeon lesbiaid traws, lesbiaid Du ac unigolion nad sydd yn cydymffurfio gyda chategorïau rhyw.

Add to CompareAdded

Newsletter Sign-Up

Input your email address below to sign-up to our monthly newsletter, which features discount codes, news and attempted whimsy.