
What Is The Disco at the End of the World – Nathan Tavares
£9.99
Ym 1977 – byd lle lansiodd America ei rhaglen ofod yn fuan ar ôl yr Ail Ryfel Byd – dilynodd Mitch Ward Flynn, cariad coll ei ieuenctid, i mewn i Warchodlu Gofod yr Unol Daleithiau. Nawr, mae’n sownd ar dwll o ganolfan lleuad gyda’i unig ffrind, Gloria, yn gwylio pob llong ofod yn y gobaith y bydd Flynn arni.
Ar ôl cyfarfyddiad anesboniadwy â bod rhyfedd, ewfforig, mae Mitch a Gloria yn cael eu rhyddhau’n ddianrhydedd, ac yn sownd mewn UDA sy’n llithro’n gyflym i ffasgiaeth heb unrhyw gynlluniau na dyfodol. Does dim byd arall amdani ond symud i Los Angeles i ddilyn eu breuddwydion, a dod o hyd i’w pobl yn nisgos y ddinas. Ond pan mae Flynn yn dychwelyd i’w bywydau, gan honni ei fod yn letywr i gennad gwareiddiad iwtopaidd sy’n agosáu at y Ddaear, mae’n cynnig y pŵer i Mitch amddiffyn ei hun a’i ffrindiau ar draws y gymuned cwiar, fel na fydd yn rhaid iddyn nhw byth fyw yn y cysgodion na wynebu gormes eto.
Gyda’r byd ar fin profi trychineb, a Mitch a’i ffrindiau’n cael eu gwasgu allan o bob gofod, mae’n gyfrifoldeb ar y gymuned hon o alltudion sy’n dwlu ar ddisgo i sefyll dros yr hyn sy’n brydferth ac yn gywir.
Additional information
| Weight | 255 g |
|---|




