Weight | 300 g |
---|
Your Driving is Waiting – Priya Guns
£9.99
Mae Damani wedi blino. Bob dydd, mae hi’n gofalu am ei mam, yn gyrru ‘drive shares’ i dalu’r biliau ac yn grac at fyd a addawodd fwy iddi cyn ei phoeri mas. Mae’r ddinas yn fyw gyda phrotestiadau, yn ymladd dros bobl fel hi, ond prin y gall Damani fforddio – yn llythrennol – i dalu sylw.
Hynny yw, tan yr haf mae hi’n cwrdd â Jolene ac mae ei bywyd yn agor. Mae Jolene yn ymddangos fel y gallai hi fod yn gariad perffaith – yn graff, deniadol a’n gynghreiriad – ac mae’r cemeg yno. Mae Jolene wedi gwneud y darllen, yn mynd i bob protest, mae ganddi’r holl atebion cywir. Felly efallai gall Damani edrych heibio’r un peth sy’n ei dal yn ôl: mae Jolene yn gyfoethog. Ac nid yn unig yn gyfoethog, ond yn wyn hefyd. Ond yn union wrth i’w rhamant ddwysau, yn union pan mae Damani yn dysgu ymddiried, mae Jolene yn gwneud rhywbeth anfaddeuol, gan gychwyn cadwyn ffrwydrol o ddigwyddiadau.