Enjoy Me Among My Ruins – Juniper Fitzgerald
£11.99
Gan gyfuno ffeministiaeth, X-Files a chofiant, mae Enjoy Me Among My Ruins yn llunio archif caleidosgopig o brofiadau Juniper Fitzgerald fel mam cwiar a gweithiwr rhyw. Gan blymio’r digwyddiadau mawr a luniodd ei bywyd, a chan wasgaru llythyrau ei phlentyndod a ysgrifennwyd at Gillian Anderson, mae’r maniffesto hwn yn ymgodymu â naratifau dominyddol a roddir ar bobl ymylol, gan ymwrthod â’r system gyfalafol sy’n mynnu ein purdeb a’n hymddarostyngiad dros ein goroesiad.