Great LGBTQ+ Speeches: Empowing Voices That Engage and Inspire gol. gan/ed. by Tea Uglow + Jack Holland

£12.99

Dewch i ddarganfod y lleisiau ysbrydoledig sydd wedi newid ein byd, a dechrau sgwrs newydd. Teitl cydymaith i Great Women’s Speeches (2021), a’r rhifyn poced o Loud and Proud (2020), mae Great Queer Speeches yn casgliad arloesol o dros 40 o areithiau pwerus a dylanwadol sy’n olrhain hanes y mudiad LHDTC+.

Gyda’i gilydd mae’r siaradwyr hyn yn cyffwrdd â phob agwedd ar fywyd LHDTC+, o briodas gyfartal i’r argyfwng AIDS, i hawliau traws heddiw. Rydyn ni’n gryfach gyda’n gilydd, ac mae’r casgliad hwn gan yr actifydd Tea Uglow yn ein hannog i wneud hynny wrth ddathlu harddwch ein gwahaniaethau. Cyflwynir pob araith gyda phortread ffotograffig a chyflwyniad craff, gan gynnig cyd-destun hanfodol, mewnwelediadau ffres a dealltwriaeth gynnil sy’n dod â phob cymeriad a’u geiriau yn fyw.

Y lleisiau: Audre Lorde; Harvey Milk; Munroe Bergdorf; Elton John; Ian McKellen; George Takei; Sylvia Rivera; Bayard Rustin; Elizabeth Toledo; Alison Bechdel; Loretta E. Lynch; Hanne Gaby Odiele; Vito Russo; Tammy Baldwin; Hillary Rodham Clinton; Barak Obama; Senator Karl Heinrich Ulrichs; Robert G. Ingersoll; Theodora Ana Sprungli; Franklin “Frank” Kameny; Sally Gearhart; Harry Hay; Sue Hyde; Mary Fisher; Essex Hemphill; Simon Nkoli; Urvashi Vaid; Eric Rofes; Justice Michael Kirby; Evan Wolfson; Paul Martin; Ian Hunter; Dan Savage and Terry Miller; Rabbi Kleinbaum; Penny Wong; Arsham Parsi; Anna Grodzka; Debi Jackson; Johanna Sigurdardottir; Lee Mokobe; Ban Ki-moon; Geraldine Roman; Cecilia Chung; Olly Alexander.

Add to Wishlist Browse Wishlist
Scroll to Top

Newsletter Sign-Up

Input your email address below to sign-up to our monthly newsletter, which features discount codes, news and attempted whimsy.