Weight | 500 g |
---|
Tanysgrifiad Llyfrau – Tri Mis
£36.00
Prynwch danysgrifiad llyfrau i’ch hun (pam lai?) neu i rywun arall! Ar y cyntaf o bob mis, caiff llyfr newydd (ac efallai rhai ychwanegion) ei gyrru i chi trwy’r post, wedi dewis gan dîm Paned o Gê (does dim tîm, dim ond unigolyn). Medrwch ddewis thema am eich llyfrau gan adael nodyn i ni wrth i chi talu! Dewiswch un o’r esiamplau isod neu penderfynwch am un eich hun!
Themâu Enghreifftiol
- Llyfrau gan Awduron Du
- Cymeriadau Anrhywiol
- Llawenydd Cwiar
Manylion Pellach
Bydd pob llyfr gyda werth hyd at £8.99.
Os oes gennych chi llyfr yn barod, croeso i chi gyfnewid fo am un arall os rydych yn dychwelyd o i ni yn y cyflwyr wnaeth o gyrraedd.