Mynd i'r cynnwys

Decolonize Drag – Kareem Khubchandani

£14.99

Mae drag yn cael ei ddychmygu fel arfer isddiwylliannol cwiar ond mae’n ymddangos ym mhobman rydyn ni’n edrych: o AI ar TikTok i adloniant amser brunch, o ddeddfwriaeth i ralïau gwleidyddol. Ond wrth i ddrag ddod i mewn i’r brif ffrwd – yn bennaf oherwydd poblogrwydd byd-eang RuPaul’s Drag Race – mae rhai mathau o berfformiad rhywedd yn disgyn mas o faes (yr hyn y gallwn ei alw’n) drag.

Mae Decolonize Drag yn manylu’r ffyrdd mae rhywedd yn cael ei ddefnyddio fel ffurf o lywodraethu trefedigaethol i ddileu gwahanol fathau o fynegiant, ac yn olrhain sut mae drag cyfoes, gan gynnwys Drag Race, yn atgynhyrchu ac yn tarfu ar yr hierarchaethau sefydliadol hyn. Mae’r llyfr yn canolbwyntio ar sawl perfformiwr rhywedd sy’n gwrthsefyll a’n chwerthin ar brosiectau trefedigaethol trwy eu harferion esthetig. Mae hefyd yn cynnwys llais ‘alter ego’ Khubchandani, anti feirniadol o Dde Asia, LaWhore Vagistan. O safbwynt uniongyrchol artist drag, mae LaWhore yn disgrifio cyfarfyddiadau â fersiynau anwleidyddol o ddrag sy’n ei siomi a drysu, ac yn ysgogi Khubchandani am gyd-destun a dadansoddiad.

Mae eu dynameg yn gosod naws y llyfr, gan ymchwilio i sut mae drag – a rhywedd yn ehangach – wedi’i breifateiddio a’i gyfyngu fel ei fod ar gael i rai pobl yn unig. Mae Decolonize Drag yn dadlau dros fwy o fynediad i ffasiwn rywedd, ac yn ystyried sut mae drag yn newid ystyr ac effeithiolrwydd wrth symud ar draws daearyddiaeth.

Add to CompareAdded

Newsletter Sign-Up

Input your email address below to sign-up to our monthly newsletter, which features discount codes, news and attempted whimsy.